BertieTHOMAS(David John Herbert Thomas)
Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Allt y Mynydd, ger Llanybydder, brynhawn Sadwrn y 18fed o Hydref 2025, gyda'i deulu annwyl o'i amgylch, hunodd Bertie, Fferm Maesymeillion, Llanwenog, yn 92 mlwydd oed.
Priod ffyddlon y diweddar Brenda, tad hoffus Glenville, Ann, Linda ac Eileen, tad-yng-nghyfraith parchus, tadcu a hen dadcu annwyl, brawd-yng-nghyfraith, cymydog ac amaethwr neilltuol.
Gwasanaeth angladdol cyhoeddus a chladdedigaeth yng Nghapel Aberduar, Llanybydder ddydd Gwener 31ain Hydref 2025 am 1.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig.
Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, ffôn (01239) 851005.
Keep me informed of updates